Hud Afon Arth

Philip Huckin, Cyril Jones, David Austin

Gwasg Gwynfil, 2015

Y teitl cyntaf mewn cyfres o gyfrolau, pob un yn ymwneud â llecyn hudol, ysbrydol yng Nghymru, a phob un i’w archwilio yn ei dro gan artist, bardd a llenor. Rhwng cloriau’r gyfrol hon cewch chithau gyfle i flasu ac ailfyw’r hud creadigol ac i deimlo’r wefr a brofodd Philip Huckin, Cyril Jones a David Austin wrth iddynt gerdded ar hyd dyffryn hudol afon Arth yng Ngheredigion.

Yng nghyfrol Hud Afon Arth cawn gyfuniad o gelf, cerdd a hanes yn portreadu tirlun byw yn ei holl ogoniant diwylliedig. Mae’r gyfrol yn eich tywys ar daith ar hyd darn trawiadol o Ddyffryn Arth rhwng Aberarth a Phennant. Mae Philip wedi portreadu ei daith bersonol trwy gyfres o ddarluniau manwl a chywrain. Mae Cyril, y bardd adnabyddus, wedi adrodd ei daith trwy ei gerddi, ill dau wedi gweithio law yn llaw, gyda chelf yn ysbrydoli cerdd sydd yn ei dro yn ysbrydoli celf. Rhoddir cydraddoldeb llwyr i’r cerddi a’r darluniau gyda’r naill na’r llall yn weision i’w gilydd. Cynsail yr holl fenter yw’r antur wreiddiol lle teithiodd bardd ac artist ar hyd y dyffryn. Weithiau bu’r ysbrydoliaeth yn un llenyddol, gyda Cyril yn arwain, gan esbonio natur farddonol yr Iaith Gymraeg (tra’n helpu Philip i ddysgu’r iaith), dro arall roedd yn weledol gyda Philip yn cyflwyno’r syniadau a’r delweddau. Roedd llif parhaol a chymhathu syniadau y naill ffordd a’r llall.

Yn ddiweddar, llwyddodd Philip a Cyril i ddenu David i gyd-gerdded yr un lôn. Ysbrydolwyd ef hefyd gan y tirwedd, y celf a’r farddoiaeth. Mae ysgrifau David yn tynnu’r celf a’r barddoniaeth at ei gilydd gan ychwanegu ffocws a chyd-destun hanesyddol.

Dyma lyfr i bori ynddo, i’w fwynhau, i ddychwelyd ato’n aml; llyfr i hudo’r dieithryn yn ddwfn i fyd yr Arth, yn ogystal â chymryd y brodor cynhenid yn ôl at galon ei gynefin.

Yr Awduron

Cyril Jones – Brodor o Ddyffryn Arth, enillodd Cyril Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ym 1992. Cyhoeddwyd Eco’r Gweld, ei gasgliad mwyaf diweddar o gerddi yn 2012. Mae’n dysgu a darlithio rhan-amser ym Mhrifysgol De Cymru.

Phillip Huckin – Symudodd Phillip i Gymru i astudio Celfyddyd Gain yn Aberystwyth, lle’r aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn agosáu at y tirwedd yr oedd yn ei bortreadu, gan ddilyn ei awydd gwreiddiol i ddeall yr hanes diwylliannol dwfn a’r enwau sydd yn rhan annatod o gymoedd, bryniau, pentrefi ac adeiladau Ceredigion.

Yr Athro David Austin FSA/FRHistS/FLSW – Daw David ag arbenigedd fel archaeolegydd tirweddol y Canol Oesoedd i’r gyfrol wrth iddo ddychwelyd i fyd Celf a Llenyddiaeth. Wedi byw a bod yng Ngheredigion ers 40 mlynedd, mae ei gariad tuag at y tirwedd lleol wedi tyfu ac esblygu ochr yn ochr â’i ddealltwriaeth ohono.