Ar Hynt i Ohio

Hanesion ymfudo o Geredigion i Ohio

Tafarn y Ship, Pennant – cychwyn y daith!

Yn ôl ym 1818 ymfudodd rhai teuluoedd o Geredigion i America, lle disgwylient well bywyd a gwlad yn llawn addewid. Dilynwyd hwy gan lawer wedi hynny. Erbyn 1848 roedd cannoedd wedi mynd yno gyda theuluoedd cyfan yn codi eu pac ac ymfudo, gan sefydlu cymuned newydd ffyniannus yn Ohio yng nghalon y Byd Newydd. Dwy ganrif yn ddiweddarach, mae’r llyfr hwn yn adrodd hanes rhai o’r unigolion a’r teuluoedd hynny, eu disgynyddion a’r etifeddiaeth ddiwylliannol sy’n ganlyniad i’r ymfudo mawr ar y ddwy ochr i’r Môr Iwerydd. Ysgrifennwyd y rhan fwyaf ohono gan ddisgynyddion yr ymfudwyr neu’r rhai a’u gadawyd ar ôl.

Wrth dynnu ynghyd y ddwy gymuned, hen a newydd, mae’n syndod mor ddwfn yw’r berthynas o hyd, er gwaethaf y cenedlaethau aeth heibio.

Yn ein byd cyfoes ni, wedi ei uniaethu gan dechnoleg, gallwn yn awr ddod a’r hen fyd a’r newydd ynghyd yn amlach ac yn gymharol hawdd. Dyma wnaeth y gyfrol hon yn bosibl, fel rhan o ddathliad ehangach o’r cyswllt agos hwn rhwng dwy gymuned ar ddwy ochr y byd, ond ar yr un pryd mae’n ein hatgoffa o’r heriau anferthol a’r antur rhyfeddol a wynebodd ein cyndeidiau ddwy ganrif yn ôl.

Cyhoeddwyd y gyfrol drwy danysgrifiad mewn dwy fersiwn, un yn Saesneg a’r llall yn Gymraeg. Gyda rhestr lawn o danysgrifwyr, llawer ohonynt yn ddisgynyddion i’r ymfudwyr gwreiddiol, wedi ei gynnwys yn y ddwy fersiwn, mae’r llyfr yn pontio’r cenedlaethau a’r gwledydd. Saif hefyd fel cofeb i ysbryd, dewrder a menter y rhai hynny a groesodd y môr mawr mewn dyddiau lle doedd dim dod yn ôl, a’n hatgoffa o’n gallu i addasu, arloesi, a mentro cyfeirio ein traed yn hyderus i barthau anghyfarwydd. Mae’n llyfr clawr caled, wedi ei orffen a’i rwymo â llaw yma yng Ngheredigion, – ac felly yn gofnod ac yn deyrnged teilwng i’r rhai a nodir o’i fewn.